Friday, December 25, 2009

Neges Nadolig / Christmas Message

A hithau wedi bod yn dymor tu hwnt o brysur a llwyddiannus, hoffwn adrodd ar rai digwyddiadau na chafwyd cyfle i adrodd arnynt yn ddiweddar. Mae pob dosbarth wedi bod yn hynod o brysur yn paratoi tuag at y Sioe Nadolig diweddar, ac fe hoffwn ddiolch o galon i’r plant am eu gwaith caled, ac i’r holl staff am eu paratoi. Diolch hefyd i chwi, y rhieni am eich gwaith a’ch cefnogaeth tuag at lwyddiant y Sioe. Edrychwn ymlaen at gael sioeau tebyg eto yn y dyfodol agos!

What a busy term it’s been with the children busy preparing for the Christmas show. I would like to congratulate the children once more on their excellent performance, and to thank the staff for their hard work with the singing and acting—well done! I wish to thank the parents for their support towards the show and for helping us ensure success! We look forward to preparing for another show in the near future!

Un o’r pethau sydd wedi fy nghalonogi yn fawr y tymor hwn yw cefnogaeth gref y pentrefwyr i holl weithgareddau’r ysgol. Edrychaf ymlaen yn fawr at gael trefnu rhagor o weithgareddau ar y cyd รข’r pentref yn ystod y misoedd nesaf.

I wish to thank the villagers for the support shown towards our recent concerts and events. I look forward to arranging similar events in the school during the Spring Term.

Thursday, December 3, 2009

Sioe Nadolig 2009 Christmas Production

Ysgol Gymuned Llanfechell

yn cyflwyno/presents

'Pwdin Nadolig'

Theatr Wylfa Theatre

10/12/2009

1.30pm/6.30pm

Mynediad/Admission

Oedolion/Adults £3.00

Plant a Phensiynwyr

Children and pensioners £2.50

Tocynnau ar gael o'r ysgol

Tickets available from school


Sioe Nadolig 2009 Christmas Production

Ysgol Gymuned Llanfechell

yn cyflwyno/presents

'Pwdin Nadolig'

Theatr Wylfa Theatre

10/12/2009

1.30pm/6.30pm

Mynediad/Admission

Oedolion/Adults £3.00

Plant a Phensiynwyr

Children and pensioners £2.50

Tocynnau ar gael o'r ysgol

Tickets available from school


Monday, October 26, 2009

Swper Diolchgarwch / Harvest Supper

Diolch i bawb am gefnogi'r noson arbennig yma, a gafodd ei threfnu gan Mrs. Maureen Jones, y Gogyddes. Cafwyd datganiadau cerddorol gan Mr. Corps, Gavin Saynor, Mrs. Ann Marston, Sioned a Bob. Diolch iddynt am eu gwaith ardderchog. Yn ystod y noson cyhoeddwyd fod dros £3000 wedi ei gasglu tuag at y prosiect o greu ystafell astudio gymunedol o fewn yr ysgol. Da iawn pawb!
I wish to thank the local community for supporting the Harvest Supper arranged by the Cook, Mrs. Maureen Jones. During the evening, the guests were entertained by Mr. Corps, Mr. Gavin Saynor, Mrs. Ann Marston, Sioned and Bob. It was announced during the evening that over £3000 had been raised towards school funds - well done everyone!

Saturday, September 26, 2009

Diwrnod Ewropeaidd / European Day of Languages


Wel, am gyffro! Pawb yn yr ysgol yn cymryd rhan yn niwrnod Ieithoedd Ewrop ar ddydd Gwener, Medi 25ain. Diolch i Miss. Dawn Hughes am drefnu. Fe gafwyd gweithgareddau amrywiol ym mhob dosbarth, gyda astudiaethau o wahanol wledydd, dysgu ieithoedd a phrofi ychydig o fwyd a diwylliant y gwledydd. Bydd yr ysgol yn awr yn datblygu ei chysylltiadau a Ffrainc, gan yrru Miss. Hughes ar daith i ymweld ag ysgolion draw yn ardal Bordeaux.
What a wonderful day we all had on September 25th to celebrate the European Languages Day. We all had fun studying the languages, foods and traditions. We'd like to thank Miss. Hughes for arranging the day for us. Miss Hughes will be visiting schools in Bordeaux soon..watch this space!


Saturday, August 1, 2009

Ffair Mechell

Roedd yn bleser o'r mwyaf gennyf gael bod yn bresennol i Ffair Mechell 2009. Bu'n ddiwrnod ardderchog; yr haul yn gwenu a phawb yn mwynhau. Diolch i Menter Mechell am y gwahoddiad.
It was a great honour to be invited to the annual Mechell Fair for 2009. Thank you to Menter Mechell for all their hard work.

Sunday, May 3, 2009

Tecstio / Texting

Gall rhieni dderbyn negeseuon ar eu ffonau symudol erbyn hyn. Mae'r ysgol wedi arwyddo i system teachers2parents, sydd yn ein galluogi i gyfathrebu yn effeithiol gyda'r rhieni trwy gyfrwng neges testun. Os nad yw'r rhieni wedi derbyn neges eto, yna cysylltwch a ni er mwyn gwirio fod y rhifau cywir gennym ar eich cyfer.
We have recently signed in to the Teachers2parents text messaging service. This allows the school to send and receive SMS messages from parents. If any parents have not yet received a text message from the school, please contact us to ensure that we have the correct mobile numbers in our database.

www.teachers2parents.co.uk

Sunday, April 26, 2009

Tymor yr Haf 2009 Summer Term

Ble mae'r flwyddyn wedi mynd! Mae hi'n brysur iawn yma yn Ysgol Llanfechell. Dyma ein Calendr ar gyfer y tymor.
Where has the academic year gone?! Here is our latest Calendar of events for the Summer term



Friday, April 3, 2009

Dathliadau'r Pasg 2009 Easter Celebrations

Wel am ddiwrnod cyffrous a gawsom yn yr ysgol heddiw! Y tywydd yn braf, pawb wedi gweithio'n galed ar hyd y tymor diwethaf ac yn barod am wyliau! Cafwyd diwrnod o ddathlu'r 1960au yn yr Adran Iau, ac fe fu pawb yn gwisgo (gan gynnwys y staff) yn nillad a steil y cyfnod! Diolch i bawb am eu cefnogaeth. Gwnaethpwyd elw o £57 gan y Cyngor Ysgol. Diolch hefyd i Anti Maureen a'i chriw am y cinio Pasg hyfryd! Yn y llun fe welir dosbarth Mr. Corps yn dathlu'r chwedegau mewn steil! Diolch i Eurwyn am y disgo ardderchog!
What a wonderful, happy end to the Spring Term with a wide range of activities in each classroom. The main event of the day was KS2's celebration of their theme, the 1960's. Thank you to the school council for arranging the event, and to all the pupils (and staff!) for wearing clothes in the style of the 1960's. Thank you Eurwyn for the wonderful disco!

Monday, March 30, 2009

Eisteddfod y Sir / County Eisteddfod 2009

Dymunaf ddiolch i bawb a fu'n rhan o lwyddiant Adran Llanfechell yn yr Eisteddfod dydd Sadwrn. Llongyfarchiadau mawr i'r canlynol am eu perfformiadau gwych:
I wish to  thank everyone for their hard work preparing for the County Eisteddfod on Saturday. Congratulations to the following:

1. Cerys White: Llefaru/Reciting: Perfformiad gwych / An excellent performance!
2. Parti Llefaru / Reciting Party: 2il / 2nd place.
3. Cor / Choir : 2il safle / 2nd place.
4. Parti Unsain / Unison Party: 2il / 2nd place.


Saturday, March 28, 2009

Tudalen newydd ar ein gwefan / New page on our website

Dilynwch y linc yma er mwyn gweld y tudalennau newydd!
Please follow the links to view our most recently added page!

http://www.llanfechell.anglesey.sch.uk/index.php?p=ce90bdaed7&iaith=1
http://www.llanfechell.anglesey.sch.uk/index.php?p=c02095ca3c&iaith=2

Thursday, March 26, 2009

PC Brian Jones

Rydym bob amser yn falch o groesawu ein cyfaill, PC Brian Jones i weithio gyda'r dosbarthiadau. Mae'r disgyblion wrth eu boddau yn trafod gyda PC Jones ac yn cael cyfle i rannu teimladau a phrofiadau. Diolch i chwi am eich gwaith caled efo'r plant.
It is always a pleasure to welcome PC Brian Jones to the school to introduce different workshops on a wide range of subjects. The children enjoy sharing their thoughts and experiences during the workshops.


PC Jones yn gweithio gyda dosbarth Mr. Corps
PC Jones working with Mr. Corps' class.

Wednesday, March 25, 2009

Helfa Pasg / Easter Egg Hunt

Bydd y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn cynnal gweithgareddau amrywiol yn stad y Brynddu eleni. Diolch i Mr. Robin Grove-White am ei garedigrwydd yn gadael i ni ddefnyddio'r stad.
The PTA will be holding the Easter Egg Hunt and other activities at the Brynddu Estate. Thank you to Mr. Robin Grove-White for allowing us to use the Brynddu Estate.

Tuesday, March 24, 2009

Ymweliad a Phentref Peryglon / Visit to Dangerpoint

Fe gafodd blwyddyn chwech gyfle gwych heddiw i ddysgu am ddiogelwch mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd go iawn. Gallwch ddilyn y linc isod i ddysgu rhagor am Ganolfan Pentref Peryglon:

Pentref Peryglon

Year six thoroughly enjoyed their educational visit to the Dangerpoint Centre today. They learnt about safety in general and were given 'hands-on' experiences. You can visit the Dangerpoint Website by clicking on the following link:

Dangerpoint


Dysgu am ddiogelwch y ffyrdd /
Road Safety Awareness

Monday, March 23, 2009

Newidiadau i'r wefan / Updates to the website

Gwnaed llawer o newidiadau ac ychwanegiadau i'r wefan - cofiwch glicio ar y gwahanol adrannau i weld y lluniau o'r gweithgareddau diweddaraf!
Updates have been made to the website. Please visit the various sections to see photographs of our various activities.

Friday, March 20, 2009

Cyngor Ysgol / School Council

Cafwyd etholiadau ar gyfer y Cyngor Ysgol heddiw. Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn ystod y gwasanaeth dydd Llun!
Elections were held today for the School Council. The results will be announced during the assembly on Monday!



Cyngor Ysgol / School Council

Cafwyd etholiadau ar gyfer y Cyngor Ysgol heddiw. Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn ystod y gwasanaeth dydd Llun!
Elections were held today for the School Council. The results will be announced during the assembly on Monday!

Thursday, March 19, 2009

Ymweliad Mr. Phil Mostert / Mr. Phil Mostert's Visit

Roeddem yn falch iawn o gael croesawu yr Uwch Ymgynghorydd Cynradd, Mr. Phil Mostert, atom heddiw. Bu Mr. Mostert yn ymweld a'r dosbarthiadau ac yn cael trafod gweithgareddau'r prynhawn gyda'r plant. Diolch am eich cymorth!
We welcomed Mr. Phil Mostert, Senior Primary Adviser, to the school today. Mr. Mostert visited lessons and discussed activities with the staff and pupils. Thank you for your guidance.

Wednesday, March 18, 2009

Tudalennau Newydd / New Pages

Cofiwch alw yn yr adran 'Dosbarthiadau' , Meithrin a Derbyn i weld y newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i dudalennau'r dosbarth!
Please call in to the 'Nursery and Reception Class section on the website to see the new material!

Gardd Ysgol / School Garden

Rydym yn falch iawn o gael cyhoeddi y bydd hadau yn cael eu plannu yfory er mwyn i ni allu harddu gerddi'r ysgol. Os oes gan unrhyw un blanhigion neu hadau yr hoffent eu rhoddi i'r ysgol, buasem yn falch iawn o glywed gennych!
Planting of seeds and preparation of the school gardens will commence tomorrow. If anyone has any plants or seeds that they would like to donate, please contact us. Thank you.

Tuesday, March 17, 2009

Ymweliad John Huw Davies Visit


Roeddem yn hynod ffodus heddiw o gael croesawu Mr. John Huw Davies i'r ysgol i roddi sesiwn hyfforddiant lleisiol i'r disgyblion hynaf. Diolch yn fawr am ddod atom am y prynhawn.
We were very fortunate to welcome Mr. John Huw Davies to the school today. Mr. Davies gave a vocal training workshop for the older children.

Noson Rieni / Parents Evening

Diolch i bawb a fynychodd y noson rieni. Roedd yn braf iawn gweld cynifer ohonoch wedi dod i drafod gyda'r athrawon. Diolch i'r staff am noson hwyr!
Thank you to all the parents who attended the Parents' Evening. I would also like to thank the staff for their hard work this evening.

Monday, March 16, 2009

Cymdeithas Rhieni ac Athrawon / PTA

Rwy'n falch iawn o nodi bod Mrs. Morfydd Rowlands yn brysur iawn ar ran y Gymdeithas yn trefnu gweithgareddau Pasg. Cysylltwch a Morfydd os ydych yn awyddus i fod yn rhan o'r gwaith.
I'm pleased to report that Mrs. Morfydd Rowlands is busy working on behalf of the PTA. Please contact Morfydd if you would like to help the school arrange the various activities.

Sunday, March 15, 2009

Tiroedd yr ysgol / School Grounds

Y mae'n fwriad gennym yn awr, a hithau'n Wanwyn, i ddatblygu rhagor ar diroedd yr ysgol. Os oes gennych ddiddordeb mewn garddio neu waith Celf a Chrefft, yna dewch am sgwrs. Rydym angen datblygu ein gardd ysgol ac ail-beintio'r wal Gelf!!! Edrychaf ymlaen at gael clywed gennych yn fuan.
It is our intention to develop the school grounds for the children to enjoy. If you have an interest in gardening or art, then please contact us! We need to develop the school garden and improve the painted wall on the school yard. I look forward to hearing from you!

Saturday, March 14, 2009

Diweddariad / Update

Mae lluniau newydd i'w gweld yn yr 'Oriel'
A new set of photographs can be seen at 'Gallery'

Friday, March 13, 2009

Neges i ddosbarth Mrs. Roberts / Message for Mrs. Roberts' Class

Oherwydd salwch, ni fydd Mrs. Roberts ar gael i gynnal noson rieni ar gyfer ei dosbarth hi nos Fawrth. Byddwn yn cysylltu a chwi yn fuan i ail-drefnu.
Due to illness Mrs. Roberts will not be available for her parents eveining on Tuesday. A letter will be sent out as soon as possible to re-arrange.

Thursday, March 12, 2009

Diwrnod Trwyn Coch / Red Nose Day

Er na fyddaf yn yr ysgol i fwynhau'r dathliadau yfory (Gan fy mod ar hyfforddiant cyfrifiaduron), dymunaf yn dda iawn i'r disgyblion a'r staff wrth iddynt wisgo yn wirion!!! Edrychaf ymlaen at gael gweld y lluniau.
Due to IT Training, I will be missing all the Red Nose Day activities. I wish the children and staff all the best with the events that they have planned. I'm looking forward to see all the photographs when I return on Monday!!!

Wednesday, March 11, 2009

Cyfathrebu gyda rhieni / Communicating with parents

Gobeithiaf eich bod yn defnyddio ein gwefan newydd, a'ch bod yn gweld ein bod yn ei gadw'n gyfredol. Taer erfynnaf ar rieni i edrych ar y Calendr, y Swyddfa a.y.y.b. er mwyn cael eu hatgoffa o ddigwyddiadau sydd yn cael eu nodi o fewn y Cylchlythyrau papur yn gyson.
I hope that parents are finding the website useful. Please ensure that you check the content of the Calendar and Letters on a regular basis. All dates and events included in paper versions are stored on the website!

Tuesday, March 10, 2009

Cefnogaeth / Support

Braf yw cofnodi yma fod y cyfarfod o'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon wedi bod yn llwyddiant ysgubol! Diolch i bawb a ddaeth i'n cefnogi. Mae llawer o weithgareddau wedi eu trefnu - dewch am sgwrs efo Morfydd Rowlands os am ragor o wybodaeth.
I have pleasure in reporting on the success of our PTA meeting held at the school this evening. Thank you for your support. Many activities are being planned and further information can be obtained by contacting Morfydd Rowlands.

Monday, March 9, 2009

Cymdeithas Rhieni ac Athrawon / PTA

Cofiwch y cynhelir cyfarfod o'r CRhA am 5.30 p.m. ar y 10fed o Fawrth - dewch yn llu! Bydd Mr. Jac Jones, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn bresennol.
Please come to support the meeting of the PTA held at 5.30p.m. on the 10th of March. Mr. Jac Jones, Chair of Governors will be present at the meeting.

Cyngerdd Gai Toms


Diolch i bawb a gefnogodd y noson wych yma. Roedd hi'n braf iawn gweld cymaint o bentrefwyr wedi dod draw atom i fwynhau. Gobeithio y gallwn ddenu rhagor o rieni a phlant i gefnogi y tro nesaf. Gwnaed elw o £170 wedi i ni dalu costau'r noson. Diolch arbennig i Anti Maureen a phawb a helpodd gyda'r Lobsgows gwych!
Thank you to all the friends that supported the concert. I hope that we can persuade more parents and children to support similar events in the future. I wish to thank Anti Maureen and all who helped to serve the wonderful Lobsgows! A profit of £170 was made during the evening.

Eisteddfod yr Urdd

Rwy'n falch iawn, iawn o lwyddiant yr ysgol yn yr Eisteddfod, a gynhaliwyd nos wener yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Edrychwn ymlaen yn fawr at yr Eisteddfod Sir; pob lwc i bawb.
I was very pleased with the results that the children obtained at the Eisteddfod on Friday. All the best at the next round of the Eisteddfod.