Monday, March 30, 2009

Eisteddfod y Sir / County Eisteddfod 2009

Dymunaf ddiolch i bawb a fu'n rhan o lwyddiant Adran Llanfechell yn yr Eisteddfod dydd Sadwrn. Llongyfarchiadau mawr i'r canlynol am eu perfformiadau gwych:
I wish to  thank everyone for their hard work preparing for the County Eisteddfod on Saturday. Congratulations to the following:

1. Cerys White: Llefaru/Reciting: Perfformiad gwych / An excellent performance!
2. Parti Llefaru / Reciting Party: 2il / 2nd place.
3. Cor / Choir : 2il safle / 2nd place.
4. Parti Unsain / Unison Party: 2il / 2nd place.


Saturday, March 28, 2009

Tudalen newydd ar ein gwefan / New page on our website

Dilynwch y linc yma er mwyn gweld y tudalennau newydd!
Please follow the links to view our most recently added page!

http://www.llanfechell.anglesey.sch.uk/index.php?p=ce90bdaed7&iaith=1
http://www.llanfechell.anglesey.sch.uk/index.php?p=c02095ca3c&iaith=2

Thursday, March 26, 2009

PC Brian Jones

Rydym bob amser yn falch o groesawu ein cyfaill, PC Brian Jones i weithio gyda'r dosbarthiadau. Mae'r disgyblion wrth eu boddau yn trafod gyda PC Jones ac yn cael cyfle i rannu teimladau a phrofiadau. Diolch i chwi am eich gwaith caled efo'r plant.
It is always a pleasure to welcome PC Brian Jones to the school to introduce different workshops on a wide range of subjects. The children enjoy sharing their thoughts and experiences during the workshops.


PC Jones yn gweithio gyda dosbarth Mr. Corps
PC Jones working with Mr. Corps' class.

Wednesday, March 25, 2009

Helfa Pasg / Easter Egg Hunt

Bydd y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn cynnal gweithgareddau amrywiol yn stad y Brynddu eleni. Diolch i Mr. Robin Grove-White am ei garedigrwydd yn gadael i ni ddefnyddio'r stad.
The PTA will be holding the Easter Egg Hunt and other activities at the Brynddu Estate. Thank you to Mr. Robin Grove-White for allowing us to use the Brynddu Estate.

Tuesday, March 24, 2009

Ymweliad a Phentref Peryglon / Visit to Dangerpoint

Fe gafodd blwyddyn chwech gyfle gwych heddiw i ddysgu am ddiogelwch mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd go iawn. Gallwch ddilyn y linc isod i ddysgu rhagor am Ganolfan Pentref Peryglon:

Pentref Peryglon

Year six thoroughly enjoyed their educational visit to the Dangerpoint Centre today. They learnt about safety in general and were given 'hands-on' experiences. You can visit the Dangerpoint Website by clicking on the following link:

Dangerpoint


Dysgu am ddiogelwch y ffyrdd /
Road Safety Awareness

Monday, March 23, 2009

Newidiadau i'r wefan / Updates to the website

Gwnaed llawer o newidiadau ac ychwanegiadau i'r wefan - cofiwch glicio ar y gwahanol adrannau i weld y lluniau o'r gweithgareddau diweddaraf!
Updates have been made to the website. Please visit the various sections to see photographs of our various activities.

Friday, March 20, 2009

Cyngor Ysgol / School Council

Cafwyd etholiadau ar gyfer y Cyngor Ysgol heddiw. Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn ystod y gwasanaeth dydd Llun!
Elections were held today for the School Council. The results will be announced during the assembly on Monday!