Friday, December 25, 2009

Neges Nadolig / Christmas Message

A hithau wedi bod yn dymor tu hwnt o brysur a llwyddiannus, hoffwn adrodd ar rai digwyddiadau na chafwyd cyfle i adrodd arnynt yn ddiweddar. Mae pob dosbarth wedi bod yn hynod o brysur yn paratoi tuag at y Sioe Nadolig diweddar, ac fe hoffwn ddiolch o galon i’r plant am eu gwaith caled, ac i’r holl staff am eu paratoi. Diolch hefyd i chwi, y rhieni am eich gwaith a’ch cefnogaeth tuag at lwyddiant y Sioe. Edrychwn ymlaen at gael sioeau tebyg eto yn y dyfodol agos!

What a busy term it’s been with the children busy preparing for the Christmas show. I would like to congratulate the children once more on their excellent performance, and to thank the staff for their hard work with the singing and acting—well done! I wish to thank the parents for their support towards the show and for helping us ensure success! We look forward to preparing for another show in the near future!

Un o’r pethau sydd wedi fy nghalonogi yn fawr y tymor hwn yw cefnogaeth gref y pentrefwyr i holl weithgareddau’r ysgol. Edrychaf ymlaen yn fawr at gael trefnu rhagor o weithgareddau ar y cyd รข’r pentref yn ystod y misoedd nesaf.

I wish to thank the villagers for the support shown towards our recent concerts and events. I look forward to arranging similar events in the school during the Spring Term.

Thursday, December 3, 2009

Sioe Nadolig 2009 Christmas Production

Ysgol Gymuned Llanfechell

yn cyflwyno/presents

'Pwdin Nadolig'

Theatr Wylfa Theatre

10/12/2009

1.30pm/6.30pm

Mynediad/Admission

Oedolion/Adults £3.00

Plant a Phensiynwyr

Children and pensioners £2.50

Tocynnau ar gael o'r ysgol

Tickets available from school


Sioe Nadolig 2009 Christmas Production

Ysgol Gymuned Llanfechell

yn cyflwyno/presents

'Pwdin Nadolig'

Theatr Wylfa Theatre

10/12/2009

1.30pm/6.30pm

Mynediad/Admission

Oedolion/Adults £3.00

Plant a Phensiynwyr

Children and pensioners £2.50

Tocynnau ar gael o'r ysgol

Tickets available from school


Monday, October 26, 2009

Swper Diolchgarwch / Harvest Supper

Diolch i bawb am gefnogi'r noson arbennig yma, a gafodd ei threfnu gan Mrs. Maureen Jones, y Gogyddes. Cafwyd datganiadau cerddorol gan Mr. Corps, Gavin Saynor, Mrs. Ann Marston, Sioned a Bob. Diolch iddynt am eu gwaith ardderchog. Yn ystod y noson cyhoeddwyd fod dros £3000 wedi ei gasglu tuag at y prosiect o greu ystafell astudio gymunedol o fewn yr ysgol. Da iawn pawb!
I wish to thank the local community for supporting the Harvest Supper arranged by the Cook, Mrs. Maureen Jones. During the evening, the guests were entertained by Mr. Corps, Mr. Gavin Saynor, Mrs. Ann Marston, Sioned and Bob. It was announced during the evening that over £3000 had been raised towards school funds - well done everyone!

Saturday, September 26, 2009

Diwrnod Ewropeaidd / European Day of Languages


Wel, am gyffro! Pawb yn yr ysgol yn cymryd rhan yn niwrnod Ieithoedd Ewrop ar ddydd Gwener, Medi 25ain. Diolch i Miss. Dawn Hughes am drefnu. Fe gafwyd gweithgareddau amrywiol ym mhob dosbarth, gyda astudiaethau o wahanol wledydd, dysgu ieithoedd a phrofi ychydig o fwyd a diwylliant y gwledydd. Bydd yr ysgol yn awr yn datblygu ei chysylltiadau a Ffrainc, gan yrru Miss. Hughes ar daith i ymweld ag ysgolion draw yn ardal Bordeaux.
What a wonderful day we all had on September 25th to celebrate the European Languages Day. We all had fun studying the languages, foods and traditions. We'd like to thank Miss. Hughes for arranging the day for us. Miss Hughes will be visiting schools in Bordeaux soon..watch this space!


Saturday, August 1, 2009

Ffair Mechell

Roedd yn bleser o'r mwyaf gennyf gael bod yn bresennol i Ffair Mechell 2009. Bu'n ddiwrnod ardderchog; yr haul yn gwenu a phawb yn mwynhau. Diolch i Menter Mechell am y gwahoddiad.
It was a great honour to be invited to the annual Mechell Fair for 2009. Thank you to Menter Mechell for all their hard work.

Sunday, May 3, 2009

Tecstio / Texting

Gall rhieni dderbyn negeseuon ar eu ffonau symudol erbyn hyn. Mae'r ysgol wedi arwyddo i system teachers2parents, sydd yn ein galluogi i gyfathrebu yn effeithiol gyda'r rhieni trwy gyfrwng neges testun. Os nad yw'r rhieni wedi derbyn neges eto, yna cysylltwch a ni er mwyn gwirio fod y rhifau cywir gennym ar eich cyfer.
We have recently signed in to the Teachers2parents text messaging service. This allows the school to send and receive SMS messages from parents. If any parents have not yet received a text message from the school, please contact us to ensure that we have the correct mobile numbers in our database.

www.teachers2parents.co.uk